Neidio i'r prif gynnwys
Gwneud cais am Gredyd Pensiwn

Mae hwn yn wasanaeth newydd – helpwch ni i'w wella trwy anfon eich adborth (agor mewn tab newydd).

Gwybodaeth y byddwch angen i wneud cais ar-lein

Byddwch angen gwybodaeth penodol amdanoch chi a'ch partner (os ydych yn byw gyda phartner) tra byddwch yn gwneud eich cais.

Os na fyddwch yn rhoi gwybodaeth i mewn am fwy am 30 munud, bydd eich cais yn amseru allan a byddwch yn gorfod cychwyn eto. Mae hyn i gadw eich manylion yn ddiogel. Ni allwch arbed eich cais a dod yn ôl wedyn.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer ceisiadau Credyd Pensiwn newydd yn unig. Os rydych yn cael Credyd Pensiwn eisoes fe ddylech ein ffonio ni i'n hysbysu am newid mewn amgylchiadau.

Oes gennych y wybodaeth cywir ar gyfer gwneud cais ar-lein am Gredyd Pensiwn?

Fe fyddwch angen (ar eich cyfer chi a'ch partner, os ydych yn byw gyda phartner:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion unrhyw incwm neu bensiynau
  • manylion o arian, cynilion a buddsoddiadau, fel arfer ar gyfer y 3 mis diwethaf